Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU
yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb
Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae'r Rheoliadau hyn (ynghyd â Rheoliadau Datblygu
Gwledig (Rheolau a Phenderfyniadau) (Diwygio) (Ymadael
â’r UE) 2018) yn diwygio cyfres o reoliadau'r UE ac yn
gweithredu penderfyniadau sy'n berthnasol i raglenni a ariennir ar
hyn o bryd gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig
(EAFRD), er mwyn galluogi Rhaglenni Datblygu Gwledig y DU ar gyfer
2014-2020 i barhau i weithredu os bydd senario dim bargen ar
ôl i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Bydd y gwelliannau'n cywiro diffygion yng nghyfraith yr UE a
ddargedwir sy'n deillio o'r DU yn ymadael â'r UE ac yn
sicrhau y gellir parhau i wneud taliadau i fuddiolwyr o dan y
rhaglenni hyn gan ddefnyddio cyllid domestig.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn
mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 3
Rhagfyr 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
-
Mae'r datganiad yn cadarnhau mai teitl y Rheoliadau hyn yw
Rheoliadau Datblygu Gwledig (Ymadael â’r UE) (Diwygio)
2018. Teitl cywir y Rheoliadau yw "Rheoliadau Datblygu Gwledig
(Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018”.
-
Mae'r datganiad yn nodi bod y Rheoliadau hyn yn diwygio
Cyfarwyddeb y Cyngor 129/2007. Fodd bynnag, ymddengys nad yw'r
Rheoliadau na'r memorandwm esboniadol i'r Rheoliadau yn cyfeirio at
y Gyfarwyddeb hon (ac nid ydym wedi gallu olrhain Cyfarwyddeb sy'n
cynnwys y cyfeiriad hwn). Felly, byddem yn croesawu eglurhad gan
Lywodraeth Cymru ar y pwynt hwn.
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r
Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r
Rheoliadau hyn yn creu polisi newydd mewn meysydd
datganoledig.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw
faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil
yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin
mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm
cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10
mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|